P-05-1110 Dylid adfer nofio am ddim i bensiynwyr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Peter Roberts, ar ôl casglu cyfanswm o 78 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae cyfyngu nofio am ddim i amseroedd penodol yn golygu bod mwy o bobl yn y pwll ar yr un pryd, ac felly mae'n cyfyngu’n ddifrifol ar nofio. A minnau’n bensiynwr, nid wyf yn nofio yn rheolaidd mwyach.
Gwybodaeth Ychwanegol
Wrth i’r cyfyngiadau symud presennol gael eu llacio, mae ar lawer o bensiynwyr angen yr ymarfer corff na ellir ei gael ond drwy nofio; o brofiad, mae'r rhan fwyaf o bensiynwyr yn defnyddio pyllau nofio ar adegau tawel a’r tu allan i oriau brig. O ystyried y miliynau o bunnoedd sy’n cael eu gwario i geisio achub yr economi, mae’r arian a arbedir trwy dynnu nofio am ddim yn ôl yn swm diystyr.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol De Cymru